P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tesni Morgan, ar ôl casglu cyfanswm o 1,462 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Ar 27 Awst 2020, lladdodd ein Bronwen annwyl ei hun ar ôl brwydr hir gyda'i hiechyd meddwl.

 

Rydym ni, fel teulu, wir yn credu y gallai hynny fod wedi cael ei atal. Yn ystod 6 mis olaf ei bywyd, dirywiodd iechyd meddwl Bronwen yn sylweddol. Gwnaeth sawl ymdrech i ladd ei hun, gan roi ei hun mewn sefyllfaoedd peryglus yn rheolaidd. Roedd Bronwen mewn anobaith—nid oedd ei chynllun gofal yn addas at y diben ac roedd hi a'r teulu'n erfyn ar i rywbeth newid.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwnaethom ni, a Bronwen hithau, erfyn ar i rywun wrando arnom. Cawsom ein hanwybyddu.

 

Rydym yn ymdrechu am benderfyniadau ar y cyd ac adolygiadau rheolaidd o gynlluniau gofal a thriniaeth iechyd meddwl. Rydym hefyd yn galw am gyfle i'r berthynas agosaf gyfrannu i’r adolygiadau hynny. Mae canllawiau presennol NICE yn nodi bod penderfyniadau ar y cyd yn hanfodol er mwyn diwallu anghenion y claf.

 

Mae NICE yn nodi bod penderfyniadau ar y cyd yn bwysig er mwyn:

 

trefnu bod dewisiadau gwahanol ar gael i'r claf ac i’r rhain gael eu trafod yn agored.

 

trefnu i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud ar y cyd gan y gweithiwr iechyd proffesiynol a'r claf.

 

helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i addasu'r gofal neu'r driniaeth yn ôl anghenion yr unigolyn.

 

Nid felly y bu hi yn achos Bronwen. Mae penderfyniadau ar y cyd yn HANFODOL i gleifion gael y gofal gorau sydd wedi'i addasu yn ôl eu hanghenion unigol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Canol Caerdydd

·         Canol De Cymru